Llawflog i fynyddoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Llyn y Fan Fawr a Caerfyrddin Fan

Ar Ddydd Iau fe es i i fyny y mynyddoedd yn Caerfyrddin Fan a Llyn y Fan Fawr. Fe ddechreiais am 8:30am o maes parcio ar yr A4067, yna fe cerddais i Llyn y Fan Fawr wedyn ddilyn y llwybyr lan wyneb y crib ac yna i’r chwyth i copa Fan Hir. Wedyn roedd rhaid troi yn ol ar ochr y crib i Fan Brycheiniog a wedyn i’r orllewin i Picws Ddu. Wedyn wnes i cymrud “bearing” yn ol i Fan Hir, ac yna nol i lawr i Llyn y Fan Fawr, ac i’r maes parcio a cinio am 12:00.
Er ei fod yn cymylog pan es i roedd wedi clurio un neu ddau waith i mi weld olygfeudd wych o’r Bannau Brycheiniog. Ar y ffordd nol wrth cymrud llun fe wnes i ollwng fy ffon i afon ac aeth yn wlib sopen! Ond mae e’n iawn nawr felly ddim panic. Hefyd mae llawer o milwyr yno (am hyfforddiant), fe wnes i cwrdd a un oedd ar goll, roedd ganddo acen gryf iawn o Lerpwl.

Eisiau Ddisgrifiad?

Os ydych eisiau wybod ffordd i fynny mynydd yng Nghymru rhowch ei enw yn y blwch sylwadau (gyda unrhyw sylwadau arall am y flog) ac fe wnaf fy orau i ddweud y llwybyr i fyny.

Waun Oer a Maesglase

Heddiw fe es I i fyny Maesglase a Waun Oer. Fe ddechreuon ni yn maes parcio yn Bwlch Oerddrws ac yna i fyny Craig y Bwlch ac ar hyd y crib hyny gan cario yn syth ymlaen i lawr ac yna nol i fyny yn serth i Waun Oer. Yna fe wnaethon ni mynd yn ol nes ein fod yn dod i steil sydd yn yr un lle a ble mae cyfarfod y ffens yr oeddwn yn baralel i gyda fens oedd yn 90 gwradd i’r dde. Fe wnaethon ni ddilyn y ffens oedd yn 90 gwradd i’r dde ar draws plateu ac yna i lawr i bwlch ac wedyn nol i fyny gan troi i’r chwyth fach i torri bant cornel ac yna ddilyn ffens arall a crib ar hyd i fyny i Maesglase sydd gyda dau copa ac yr un bellaf yw’r uchelaf.
Wedyn fe aethon ni nol i’r steil ( oedd gyda’r ffens yn ei cyfarfod ) ac yna nol i Craig y Bwlch ac nol i lawr i’r car.
Fe cymrodd y llwybyr hyn tua 6-7 awr ac mae yn eithaf galed. Ond mae ffindio eich ffordd yn galed ac yn fwy galed eto ar Maesglase felly mae yna eisiau i wybod eich ffordd a cadw iddo, ac os mae’n bosibl ddim i fynd i fyny yn y cwmwl.

Pumlumon a'r Fynyddoedd o'i amgylch

Dydd Sul diwethaf fe wnes i ddringo mynyddoedd o amgylch Pumlumon. Fe wnes i ddechrau ar bwys Nant y Moch ac yna i fyny Y Garn syddyn eithaf bell i fyny, ac yna ar hyd crib oedd yn ddilyn o amgylch i Pumlumon Fawr ac yna ymlaen i Pen Pumlumon Llygad-bychan, wedyn ymlaen i Pen Pumlumon Arwystli.Wedyn es i lawr. Gan aneli am Llyn Llygad Rheidol ble mae olygfeidd wych yn y cwm. Yna wnes i ddilyn trac i lawr i Nant y Moch a’r car.
Roedd hon yn llwybyr dda iawn ac mae wedi croesi bant pedwrar mynydd arall o fy list Cant Cymry (er fy mod i wedi wneud Plunlumon o flaen). Fe cymrodd y llwybyr hyn tua pedwar awr ac mae yn werth wneud, ond mae’r llwybrau yn galed yn tywydd cymylog am nad ydynt yn glur.

Cerdded y Glyderau

Ar y taith hyn fe wnes i ddechrau o Nant Peris sydd rhwng Llanberis a Pen y Pass. O’r fan hyn mae’n rhaid cymryd rhewl bach sydd yn agos i’r capel i fynny heibio’r maes wersylla ac i fyny y rhewl nes iddo dod i ben.
O hyn ymlaen rydych yn ddilyn llwybyr i fyny i Elidir Fawr sydd yn cerdded galed iawn am ei fod mor serth ond ni ellych ddefnyddio eich ddwylo. Gan ddilyn y lwybyr hir, serth rydych yn araf yn dod i’r copa ar ol awr neu fwy. O’r fan hyn fe welwch Yr Wyddfa a’u fynyddoedd o’u gwmpas.
I’r de , ddwyrain mae y Garn sef fynydd nesaf i chi ddringo. Gan ddilyn y llwybyr o amgylch Foel Goch ac yna fe eith y lwybyr i fyny y Garn.
Gan ddod i lawr y Garn i fewn i Llyn y Cwn, yma ydy lle dda am eich cinio.
Ar ol cael eich ail lenwy mae’n rhaid ddringo i fyny i Glyder Fawr lan cerrig rhydd i’r copa.
O Glyder Fawr gellych weld Glyder Fach (mewn tywydd da).
Gan wneud eich ffordd draw yno nad oes rhaid cerdded i lawr gormod trwy Bwlch y Ddwy Glyder neu cerdded nol i fyny lawer cyn ddod allan at copa Glyder Fach.
O Glyder Fach fe welwch Tryfan i’r Gogledd. Gan wneud eich ffordd lawr cerrig rhydd i Bwlch Tryfan, o’r fan hyn fe welwch chi Cwm Idwal i’r Gogledd, Orllewin.
Wrth wneud eich ffordd i fyny Tryfan fe ddewch chi i copa deheuol Tryfan, ceisiwch osgoi ei ddringo am nad oes lawer o pwynt. Yn lle hyn carriwch ymlaen i copa Tryfan ble mae Gog a Maigog ( y ddau cerrig sefyll)
O’r copa gellych wneud eich ffordd i lawr i Bwlch Tryfan ac yna ymlaen i Llyn Bochlwyd cyn cerdded i lawr i maes parcio Bwthyn Idwal.
Mae’r llwybyr hyn yn cymryd tua 6 awr mewn tywydd da. Rhaid fod yn ofalus ar Tryfan gyda’u ochrau serth. Ac ewch a llawer o ddwr. Gan ddechrau yn digon cynnar cyn i’r haul codi gormod.
Mae yn syniad da i aros ym maes wersylla yn Nant Peris.

Y Carneddau (Llwybrau i fyny)

Y Llwybyr fydden i yn ddewis sydd yn ffordd da i cerdded y Carneddau yw i ddechrau yn maes parcio Bwthyn Idwal, a benny ar ddiwedd rhewl cul sydd i’r Gogledd, Ddwyrain o Drum (770m). Mae maes parcio bach yn y fan hyn.

Os ydych yn edrych o maes parcio Bwthyn Idwal, o’r fan hyn rydych yn mynd allan i’r rhewl a throi i’r chwyth ac yna ar ochr dde yr rhewl mae llwybyr yn ddechrau i fyny Pen yr Ole Wen, sydd yn cerdded galed lan ochr y fynydd hon. Pan rydych yn dod i’r copa fe welwch chi olygfa wych o Tryfan a’r Glyderau.

O’r fan hyn rwyt yn mynd o amgylch i Carnedd Dafydd. O Carnedd Dafydd i Carnedd Llewelyn fe welwch chi Ysgolion Duon ar ochr chwyth y Crib. Pan rydych yn dod i copa Carnedd Llewelyn welwch chi plateau fawr.

Yn lle cario ymlaen i Foel Grach, trowch i’r Gogledd, Orllewin ar draws y plateau i Yr Elen sydd yn werth wneud, am ei fod yn un o’r 15 mynydd dros 3,000 o troedfeddu fel llawer o’r Carneddau.

O Yr Elen ewch ymlaen i Foel Grach , ac yna Garnedd Uchaf, a wedyn Foel Fras. O Foel Fras gellych mynd lawr i Drum ar eich ffordd allan i’r maes parcio. O Drum rhaid cario ymlaen i Carnedd y Ddelw ac yna cario ymlaen i wal sydd rhaid i chi ddilyn i’r rhewl. O’r fan hyn ddilynwch y rhewl i lawr i’r maes parcio.

Erbyn i chi benny fyddech wedi dringo saith o’r 15 mynydd dros 3,000 trodfedd yng Nghymru, am hyn mae prish. Mae’r ffordd hyn yn cymryd tua saith awr neu fwy. Hefyd mae yn galed i ffindio eich ffordd ac yn waeth os mae yn gymylog. Felly os ydych eisiau cerdded y llwybyr hyn rhaid fynd gyda ddillad cynes ac addas a rhai sydd ddim yn gadael dwr i fewn. Hefyd rhaid mynd yno gyda ddealldwriaeth da o mapiau a cwmpawd.

Os ydych eisiau gellych addasu y llwybyr i chi. Er engraifft: dim ond wneud y pedwar mynydd gyntaf sef Pen yr Ole Wen , Carnedd Daffydd , Carnedd Llewelyn ac Yr Elen. Neu wneud nhw i gyd un ffordd wedyn cysgy dros nos yno a cerdded nol yr un ffordd.

Pa bynnag ffordd rydych yn mynd byddwch yn ofalus a dewiswch dydd sydd gyda tywydd da os mae’n possib.

Tryfan

Mae Tryfan yn mynydd hynod o unigriw. Mae yn siwr yn un o fy hoff fynyddoedd i am rhesymau fyddech yn ei weld wrth ei ddringo. Mae Tryfan wedi ei leoli ar ochr Ogleddol o grwp fynyddoedd y Glyderau. Os rydych eisiau ei ddringo mae llawer o ffyrdd i fyny.

Yn gyntaf mae’r crib gogleddol sydd yn scrambl ( scrambl yw hanner ffordd rhwng cerdded a ddringo, a nad oes eisiau rhaffau). Mae’r llwybyr hyn yn dechrau o ochr Llyn Ogwen ac yno mae lle i parcio car.

Ffordd arall i fyny yw o Hostel Yeienctid Bwthyn Idwal sydd ar un ben o Llyn Ogwen, yn y fan hyn rydych yn teithio ar lwybyr i fyny naillai i Bwlch Tryfan neu yn syth i fyny ei wyneb Gorllewinol. Wrth dod i Bwlch Tryfan, os ydych yn dewis y llwybyr hon. Rydych yn dod i wal, gan troi i’r chwyth rydych yn gallu dechrau i fyny Tryfan o’r fan hyn, ar yr ochr arall o Bwlch Tryfan mae “Bristly Ridge” sydd yn scrambl enwog arall sydd yn dod a chi i fyny i Glyder Fach.

O’r llwybrau rwyf nawr wedi son am meant i gyd yn dod i’r copa ble am ei fod yn myndd mor wych, y rhan fwyaf o’r amser mae llawer o pobl yno.

Ar y copa fe welwch chi ddau carreg yn sefyll i fyny. Ar rhain y sialens yw i neidio rhwng y ddau,dim ond os ydych wir eisiau wneud hyn fydden ddim ond wedyn yn werth ei wneud.

O’r fan hyn gellych troi yn nol i’r ffordd a daethoch chi o neu os ydych wedi dod i fyny y Crib Gogleddol gellych mynd i nol lawr i Bwlch Tryfan ac yna nol i’r car am llwybyr wahanol i wneud. Ac os ydych wedi dod i fyny o Bwlch Tryfan gellych cerdded i lawr y Crib Gogleddol i’r rhewl ac yna cerdded yn ol i’ch car yn bellach i lawr yn Bwthyn Idwal.

Os rydych yn dod i lawr i Bwlch Tryfan ac rydych yn teimlo fel cerdded mwy geallych dringo i fyny “Bristly Ridge” neu i fyny cerrig rhydd sydd yn hawsach rownd i’r chwych o “Bristly Ridge”. Yna ar draws y “plateau” ar ei ben ac ymlaen i Glyder Fawr ac yna lawr i Llyn y Cwn. O’r fan hyn gellych fynd i lawr i Llyn Idwal ac yn ol i Bwthyn Idwal a dy car.

Mae Tryfan yn un o fynyddoedd fwyaf wahanol o rhan natur yng Nghymru. Wedi ei creu o carreg llawer yn fwy crif na’r carreg a gaeth ei wythio allan i creu’r ddyffryn o’u amgylch. Os ydych yn digon hyderus mae yn weth cael hwyl a creu llwybyr eich hyn i fyny neu cael dydd i’w ddringo yn araf gan dringo yn y fan hyn a fan draw. Felly mae Tryfan yn fynydd gellych cael llawer o hwyl allan o pa bynag ffordd rydych yn dewis i'w ddringo.

Crib Goch a Crib y Ddysgl

Mae Crib Goch yn crib hynod o wych i ddringo. Gyda’u ochrau serth mae yn un danjerus ond llawer o hwyl. Os rydych yn edrych i’w ddringo gallech naillai ei ddringo o Pen y Pass, os oes le i parcio eich car, os nad oes fyddai rhaid parcio yn Pen y Gwryd ac yna cerdded nol lan. Neu os rydych eisiau ceisio dod o hyd i lle ar ochr y rhewl ar y ffordd lawr i Nant Peris mae hyn yn ffordd arall. O’r fan hyn gellych cerdded nol i fyny i Pen y Pass neu ceisio ar crib Ogleddol Crib Goch, sydd yn un hynod o galed i dod o hyd a ffordd i fyny iddo. Ond os rydych yn lwyddo i ddringo i’r crib hon ac ar ei draws i prif crib, Crib Goch, gellych o’r fan hyn ceisio ar Crib Goch yn wir.
Os rydych wedi pendrfynnu ddechrau o Pen y Pass rydych yn ddilyn llwybyr sydd yn dechrau o man uchelaf y maes parcio, uwchben y siop. O’r fan hyn rydych yn cerdded ar llwybyr sy’n siario gyda’r llwybyr P.Y.G. Pan rydych yn dod i Bwlch y Moch mae’r llwybyr P.Y.G. yn troi i’r chwyth a llwybyr Crib Goch i’r Dde.
O’r fan hyn rydych yn dringo i fyny wyneb Crib Goch gan ddod i’r copa. Ar y ffordd lan mae rhai o’r dringo yn dringo galed. Wrth dod i’r copa (mae hyn yn lle wych i weld yr haul yn codi), yn y fan hyn mae’r lwybyr yn ddod lan y crib Ogleddol ac yn cwrdd a Chrib Goch.
Nawr mae rhaid wneud eich ffordd ar hyd y crib, yn ofalus. Ar ol Crib Goch ffyddech yn dringo i fyny eto i ddod i Crib y Ddysgl neu Carnedd Ugain (mae yna ddau enw i gael). Mae copa’r mynydd hyn yn fwy bendant gyda pwint T.R.I.G. ar ei ben, o’r fan hyn gellych cario ymlaen i copa Yr Wyddfa sydd ddim yn rhy bell o gwbwl, sydd yn werth wneud , (os rydych yn gallu aros eich tro i fynd i’r copa, gyda’r faint o pobl yno).
Os fyddech eisiau gellych wneud hyn y ffordd arall gan wneud y “Snowdon Horseshoe” sydd yn dechrau naillau gyda Y Lliwedd, yna Yr Wyddfa, ac yna i lawr Crib y Ddysgl a Chrib Goch nol i Pen y Pass neu’r ffordd arall yn ddechrau gyda Crib Goch ac yn benny ar y Lliwedd.
Cofio i gymryd bwyll ar Crib Goch a ddim ond i’w trial os ydych yn eithaf profiadol ac yn hapus gyda fod yn uchel i fyny, gyda’r ochrau serth. A paid byth mynd i lan mewn wyntoedd grif am rhesymau glir.
I fenny, mae Crib Goch yn werth wneud os rydych yn cymryd bwyll, cofiwch edrych ar y map yn gyntaf i weld faint mor serth mae ef ac os rydych yn hapus gyda hynny ewch.
A cofiwch ddim i cwmpo bant!

Yr Wyddfa(Llwybrau i fynny)

Mae gan Yr Wyddfa nifer o fyrdd i lan. I ddechrau fe af o'r hawsach i fynny, yr un gyntaf sef llwybyr y mwynwyr sydd yn dechrau yn Pen y Pass, ble allech chi adael eich car. Mae'r llwybyr hyn yn wneud ei fordd lan i'r copa yn araf ond yn haws. Mae hyn yn fordd da os nad ydych wedi dringo'r Wyddfa oflaen. Am ei fod yn llwybyr clir mae yna llawer o pobl yn ei ddefnyddio ac mae wedi ei tarmacio am llawer o'r ffordd.
Yr aul fordd i fyny ydy'r llwybyr o Llanberis. Er ei fod yn un haws i cerdded mae yn hir iawn.Mae yn dilyn llwybr y tren ac mae ras Yr Wyddfa ar y llwybr hon.
Yn trydydd ydy'r llwybr lan Y Lliwedd sydd yn aros ar llwybyr y mwynwyr nes iddo dod i'r aul llyn sef Llyn Glaslyn ble mae yn troi i'r chwyth i ddilyn llwybyr i fyny ochr serth Y Lliwedd.O'r fan hyn rydych yn ddilyn crib i fyny hyd at Y Lliwedd ac yna copa Yr Wyddfa.
Yn pedwerydd mae llwybyr y P.Y.G. sef fel y rhai diwethar yn dechrau o Pen y Pass ac yna yn cyfeirio yn syth at Crib Goch ac yna cyn dringo i fynny i'r crib rwyt yn troi i bant i'r chwyth. Yna rwyt yn cario ymlaen wrth ochr serth Crib Goch cyn ymuno a llwybyr y mwynwyr ar lle galetaf i'r ddau llwybyr hyn sef dringo i fyny ochr Yr Wyddfa gan dod allan at Bwlch Glas.
Yn olaf mae'r llwybyr galetaf sef llwybyr Crib Goch , mae'r crib hyn yn un danjerus iawn ac mae rhaid fod yn ofalus. Fe fydden i yn ddweud ei fod yn well i chi fod yn eithaf profiadol cyn ceisio ar y llwybyr hon. Er ei dnjerisrwydd mae yn wir werth dringo am ei golygfeudd wych.Mae'r llwybyr hyn yn cwrdd a'r llwybyr mwynwyr yn Bwlch Glas cyn cario ymlaen i'r copa.
Cofiwch fy mod i ddim ond wedi ysgrifennu am y prif llwybrau ac mae llawer mwy i gael. Os rydych yn digon hyderus gallech wneud eich llwybyr eich hun os rydych dros 600m i fynny ar y mynydd(am fod hawl wneud hyn gyda'r "wright to roam law").Cofiwch fod yn ofalus pa bynnag llwybyr rydych yn cerdded arno. A mwynhewch!

Pa fynydd yw dy hoff fynydd

Mae'n siwr bod gan pawb hoff fynydd. Felly rwyf wedi meddwl am cael pleidlais ac y tro hyn nad oes rhaid fod yn 18 i pleidleisio.Felly gadewch eich pleidlais yn y sylwadau odan y paragraff hyn.Cofiwch gellych dewis unryw fynydd.(Paid anghofio dweud pam hefyd).

Beth mae'r rhestr yn meddwl

Mae'r rhestr odan y paragraff hyn yn rhywbeth gallech ei argraffi bant (os ydych yn wybod sut i). Y mynyddoedd sydd arno yw'r cant fwyaf yng Nghymru. Fel y "Munro's" yn yr Alban.Y "Wainwright's" yn Lloegr, mae'r cant Cymru, fel y ddau engraifft diwethaf, yn sialenshau i cheisio dringo pob un ohonynt, yn amser eich hun. Mae yn werth trial. Siwr a fod bydd rhai yn agos i chi am ei fod dros Gymru gyfan. Felly dechreuwch ar y sialens. Nawr!

Cant Cymru

Dyma rhestr o cant copa uchelaf yng Nghymru.Yn dechrau gyda'r uchelaf:



  1. Yr Wyddfa 3560tr/1085m Yr Wyddfa

  2. Garnedd Ugain 3494/1065 Yr Wyddfa

  3. Carnedd Llewelyn 3491/1064 Yr Wyddfa

  4. Carnedd Dafydd 3412/1044 Carneddau

  5. Glyder Fawr 3261/999 Glyderau

  6. Glyder Fach 3261/994 Glyderau

  7. Pen yr Ole Wen 3209/978 Carneddau

  8. Foel Grach 3202/962 Carneddau

  9. Yr Elen 3156/962 Carneddau

  10. Y Garn(Glyderau) 3107/947 Glyderau

  11. Foel Fras 3091/942 Carneddau

  12. Garnedd Uchaf 3038/926 Carneddau

  13. Crib Goch 3028/923 Yr Wyddfa

  14. Elidir Fawr 3018/920 Glyderau

  15. Tryfan 3002/915 Glyderau

  16. Aran Fawddwy 2969/905 Aran

  17. Y Lliwedd 2946/898 Yr Wyddfa

  18. Pen y Gadair 2930/893 Cadair Idris

  19. Pen y Fan 2907/886 Bannau Brecheiniog

  20. Aran Benllyn 2904/885 Aran

  21. Corn Du 2864/873 Bannau Brecheiniog

  22. Moel Siabod 2861/872 Blaenau Festiniog

  23. Mynydd Moel 2831/863 Cadair Idris

  24. Arenig Fawr 2802/854 Arenig

  25. Llwytmor 2785/849 Carneddau

  26. Pen yr Helgi Du 2733/833 Carneddau

  27. Foel Goch 2726/831 Glyderau

  28. Cadair Berwyn 2723/830 Berwyn

  29. Moel Sych 2713/827 Berwyn

  30. Carnedd y Filiast 2697/822 Glyderau

  31. Mynydd Perfedd 2667/813 Glyderau

  32. Waun Fach 2657/810 Mynyddoedd Du

  33. Bera Bach 2648/807 Carneddau

  34. Y Foel Goch (Ger Tryfan)2641/805 Glyderau

  35. Fan Brycheiniog 2631/802 Camarthen Fan

  36. Pen y Gadair Fawr 2625/800 Mynyddoedd Du

  37. Cribyn 2608/795 Bannau Brecheiniog

  38. Bera Mawr 2605/794 Carneddau

  39. Craig Cwm Amarch 2595/791 Cadair Idris

  40. Pen Llithrig y Wrach 2592/790 Carneddau

  41. Cadair Bronwen 2575/785 Berwyn

  42. Moel Hebog 2569/783 Nantlle

  43. Glasgwm 2559/780 Aran

  44. Moelwyn Mawr 2526/770 Blaenau Ffestinog

  45. Drum 2526/770 Carneddau

  46. Waun Rydd 2523/769 Bannau Brecheiniog

  47. Gallt yr Ogof 2503/763 Glyderau

  48. Fan Hir 2497/761 Camarthen Fan

  49. Drosgl 2487/758 Carneddau

  50. Y Llethr 2480/756 Rhinog

  51. Bwlch y Ddwyallt 2474/754 Bannau Brecheiniog

  52. Plunlumon Fawr 2467/752 Plunlumon

  53. Moel Llyfnant 2464/751 Arenig

  54. Diffwys 2461/750 Rhinog

  55. Picws Du 2457/749 Camarthen Fan

  56. Yr Aran 2451/747 Yr Wyddfa

  57. Tomle 2434/742 Berwyn

  58. Pen Plunlumon Arwystli 2431/741 Plunlumon

  59. Craig Cwm Silyn 2408/734 Nantlle

  60. Fan Fawr 2408/734 Bannau Brecheiniog
  61. Rhobell Fawr 2408/734 Arenig

  62. Pen Plunlumon Llygad-bychan 2385/727 Plunlumon

  63. Moel Eilio 2382/726 Snowdon

  64. Fan Gyhirych 2379/725 Camarthen Fan

  65. Rhinog Fawr 2362/720 Rhinog

  66. Pen Allt-mawr 2359/719 Mynyddoedd Du

  67. Fan y Big 2359/719 Bannau Brecheiniog

  68. Rhos Dirion 2339/713 Mynyddoedd Du

  69. Rhinog Fach 2336/712 Rhinog

  70. Moelwyn Bach 2329/710 Blaenau Ffestiniog

  71. Trum y Ddysgl 2326/709 Nantlle

  72. Pen Cerrig Calch 2300/701 Mynyddoedd Du

  73. Mynydd Du 2297/700 Mynyddoedd Du

  74. Garnedd Goch 2297/700 Nantlle

  75. Allt Fawr 2290/698 Blaenau Ffestiniog

  76. Mynydd Drws y coed 2280/695 Nantlle

  77. Foel Wen 2267/691 Berwyn

  78. Mynydd Mawr 2264/690 Nantlle

  79. Cnicht 2260/689 Blaenau Ffestiniog

  80. Arenig Fach 2260/689 Arenig

  81. Foel Hafod-fynydd 2260/689 Aran

  82. Carnedd y Ddelw 2257/688 Carneddau

  83. Gwaun y Llwyni 2247/685 Aran

  84. Pen y Bryn Fforchog 2247/685 Aran

  85. Y Garn(Plunlumon) 2244/684 Pumlumon

  86. Mynydd Tarw 2234/681 Berwyn

  87. Lord Herefords Knob 2231/680 Mynyddoedd Du

  88. Godor 2228/679 Berwyn

  89. Creigiau Gleision 2224/678 Carneddau

  90. Moel Druman 2218/676 Blaenau Ffestiniog

  91. Moel Cynghorion 2211/674 Yr Wyddfa

  92. Maesglase 2211/674 Cadair Idris

  93. Ysgafell Wen 2205/672 Blaenau Ffestiniog

  94. Esgeiriau Gwynion 2201/671 Aran

  95. Chwarel y Fan 2198/670 Mynyddoedd Du

  96. Waun Oer 2198/670 Cadair Idris

  97. Carnedd y Filiast 2195/669 Arenig

  98. Fan Fraith 2192/668 Camarthen Fan

  99. Tarren y Gesail 2188/667 Cadair Idris

  100. Cyrniau Nod 2188/667 Berwyn

Parciau Genedlaethol yng Nghymru

Yng Nrhymru mae gennym ni tair Parc Gennedlaethol , sef : Arfordir Sir Benfro, Bannau Brecheiniog ac Eryri. Mae Arfordir Sir Benfro yn parc genedlaethol nid am fod gannddo fynyddoedd ond am prydfethwch ei arfodir ac am y rheswm hyn ni fyddaf yn ysgrifennu llawer amdano ar fy wefan i.
Ar y llaw arall mae Bannau Brecheiniog ac Eryri wedi ei ffirfio fel parciau genedlaethol am ei fynyddoedd hardd.Yn y Dde mae'r Bannau Brecheiniog yn ddennu llawer o pobl i'w llethrau gyda'u fynyddoedd fwyaf fel Pen y Fan,Fan Foel,a Corn Du yn deny llawer.
Yn y gogledd welwn Eryri gyda llawer o fynyddoedd fwyaf yng Nghymru a Lloegr e.e. Cadair Idris , Tryfan a'r Wyddfa i enwy rhai o'r enwocaf.
Ar y wefan hyn fe fyddaf yn cyfeirio y rhan fwyaf at ardaloedd fel Eryri , Bannau Brecheiniog ac hefyd Canolbarth Cymru.

Crib Goch


I ddangos i chi dyma llun o un o mynyddoedd ( wel , crib i fod yn dechnegol) fwyaf prydferth sydd gennym ni yng Nghymru sef Crib goch. Yn aelod o clwb o fynyddoedd dross 3,000 o troedfeddy yng Nghymru. Gan fod ddim ond 15 i gael welwn faint mor wych ydy'r fynydd hon.Er ei prydferthwch welwn ei fod yn yn un o fynnyddoedd mwyaf dajerus ym Mhrydain. Gyda'u ochrau serth, ar gyfartaledd mae un person y flwyddyn yn marw ar ei llethrau , gyda degau yn cael eu anafu.Er ei danjeris-rwydd mae yn fynydd sydd yn fawr werth dringo os gallech fod yn ofalus.

Pam Mynydda?

Ie pam mynydda? Beth ydy pwynt mynydda ?Nad oes eisiau mynydda. Dim ond fordd o cael twristiaid i fewn yw mynydda. Ond y rheswm pam rwyf yn mynydda yw yn union yr un rheswm a pham mae pobl yn chwarae pel droed. Am ei fod yn hwyl! Welaf i mynydda fel chwaraeon yr un fath a inryw arall , gyda dim ond fach i risg wedi ei thaflu mewn.
Nad ydy mynydda yn wneud niwed i unryw arall trach fod chi'n ei wneud e, gall helpu ich cadw chi yn heuny ac yn hapus. Gall ei wneud ar unryw haen, o cerdded i fynny eich bryn leol i ddringo yn cannol aeaf lan clogwyn ia at dros 4000troedfedd uwchaf na'r for ( ac llawer yn uwch o fewn wledydd arall).
Felly ewch allan i'ch bryn nei fynydd leol ac ewch i gael sbri!Ewch i gael hwyl, gan fod yn ofalus. (A chofiwch erdrych ar fy wefan i am wybodaeth).

Helo Byd

Helo byd mawr crwn hwn, a chroeso i fy mlog fi.